BWTHYN PENMAEN

 

Dyma gofnod a baratowyd ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri i ddangos sut yr aethpwyd ati i ail-doi Bwthyn Penmaen ger Dolgellau. Cefnogwyd y gwaith cadwraeth a’r rhaglen hyfforddiant gan Fenter Treftadaeth Treflun Dolgellau, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, CADW a Chronfa Dreftadaeth Gynaliadwy’r Parc Cenedlaethol. Jordan Heritage Roofing wnaeth y gwaith toi â llechi.


Mae'r cofnod mewn tair rhan: 

  1. -ymchwilio, gan edrych ar fanylion y to wrth ei dynnu oddi wrth ei gilydd;

  2. -meddwl am y manylion i weld a oeddent yn llwyddiannus ac a oes unrhyw reswm dros eu newid, ac

  3. -ail-doi â llechi


Mae’r gwaith cofnodi yn cynnwys mesur hyd y llechi, eu hymylon a'r mesurau ar gyfer pob cwrs. Mae’n anochel y bydd y llechi fel arfer wedi dirywio erbyn ymgymryd â gwaith o'r fath – efallai y bydd y lats neu’r estyll wedi ystumio neu wedi symud i lawr y llethr ac efallai y bydd y llechi wedi llithro o’u priod le. Felly, yr amcan yw penderfynu beth oedd bwriad y töwr pan aeth ati i doi â llechi yn hytrach na phenderfynu beth yn union oedd y lapiau a’r mesurau gwreiddiol. O achos hynny, mae fel arfer yn ddigon gweithio i'r 1/4 modfedd neu 5mm agosaf.


Mae’n bosibl i’r gwaith toi roi rhyw amcan o ddyddiad ar gyfer y to o'r mathau o hoelion a ddefnyddiwyd, ond mae’n debygol y gwelir y dystiolaeth orau o sut mae’r to a'r adeilad wedi datblygu yn strwythur y to.


Gellir llwytho’r fideos hyn i lawr yn rhad ac am ddim neu fe ellir eu mewnblannu mewn gwefan. Ni ddylid eu newid mewn unrhyw ffordd, ac mae’n rhaid cydnabod y ffynhonnell, www.stoneroof.org.uk, a pherchennog yr hawlfraint, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri / Snowdonia National Park Authority.


Dolenni i bynciau a drafodir yn y fideos hyn

  1. -Sut mae touau’n gweithio

  2. -Sustemau lapio –llechi mewn treuanau

  3. -Llechi haphyd

  4. -Cafnau to

  5. -Ymylon to

  6. -Cadwraeth Adeiladau Ymarferol

AIL-DOI BWTHYN PENMAEN

21/7/14

RHAN 1 EDRYCH

RHAN 2 MEDDWL

RHAN 3 GWNEUD

Charted Institute of Building Awards 2015

Excellence & Quality Winner

Jordan Heritage Roofing for Penmaen Cottage


“... the judges unanimously agreed the winner showed, through their entry, a high level of skill in carrying out the work and adhering to a quality regime set by CADW, thereby creating a worthy entry complying to both excellence and quality for this category.”

National Federation of Roofing Contractors

National Awards 2015

Heritage Roofing


Penmaen Cottage by Jordan Heritage Roofing